Cyngor Cymuned
Cyffylliog
Community Council
Cyngor Cymuned
Cyffylliog
Community Council
Mae Cyngor Cymuned Cyffylliog
yn cwmpasu pentrefi Cyffylliog a
Bontuchel.
Mae’r plwyf wedi ei leoli rhwng y cymunedau o Rhuthun,
Efenechtyd, Clocaenog, Llanfihangel Glyn Myfyr, Nantglyn,
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, a Llanynys.
Mae’r Cyngor Cymuned yn gorff etholedig o 8 cynghorydd
sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd, sy’n gweithio’n ddi-dal
ac yn hollol wirfoddol er budd y gymdogaeth maent yn byw
ynddo yn ogystal a buddianau y trigolion lleol.
Rydym yn cyfarfod chwech gwaith yn y flwyddyn am 7.30y.h.
yn Festry Capel Cyffylliog. Mae gennym gaderiydd etholedig,
is-gadeirydd a chlerc sy’n gyfrifol am gadw cofnodion a
gohebiaeth. Bydd ein cynghorydd sirol hefyd yn bresennol yn
ein cyfarfodydd.
Yn ystod ein cyrfarfodydd byddwn yn ymdrin a materion lleol
sydd o bwys o’r gymuned - megis llwybrau cyhoeddus, ffyrdd,
draeniaid, adeiladau, a unrhyw gwynion byddwn wedi ei
dderbyn gan y cyhoedd. Byddwn yn rhoi barn ar geisiadau
cynllunio cyn danfon ein sylwadau i’r Cyngor Sirol. Rydym yn
gosod precept bob blwyddyn. Byddwn yn achlysurol yn
derbyn ymwelwyr i’r cyfarfodydd megis ein Plismon
cymunedol neu ein A.S. lleol.
Mae croeso i unrhyw un o’r cyhoedd fod yn bersennol yn y
cyfarfodydd.
Cyngor Cymuned Cyffylliog Community Council © 2025
Website designed and maintained by H G Web Designs
Diweddariad: Maes Chwarae
Plant - Is-bwyllgor wedi’w
sefydlu
Hoffai Cyngor Cymuned Cyffylliog ddiolch i'r holl drigolion a
fynychodd y cyfarfod cyhoeddus diweddar i drafod y maes
chwarae plant.
Yn dilyn y cyfarfod, sefydlwyd is-bwyllgor pwrpasol i symud
y prosiect ymlaen.
Mae'r Cyngor Cymuned wedi trosglwyddo cyfrifoldeb
ffurfiol am y camau nesaf i'r is-bwyllgor, a fydd bellach yn
arwain ar gynllunio, datblygu a chysylltu â'r gymuned.
Bydd diweddariadau pellach, gwybodaeth a manylion
ymgynghori yn cael eu darparu gan yr is-bwyllgor maes o
law.
Swydd - Cyngor Cymuned
Cyffylliog: Clerc a Swyddog
Ariannol Cyfrifol
Mae Cyngor Cymuned Cyffylliog yn chwilio am unigolyn
cymhellol, sy’n canolbwyntio ar y gymuned, i ymuno â’n
Cyngor blaengar fel Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol.
Mae’r rôl hon yn hanfodol i alluogi’r Cyngor i redeg o ddydd i
ddydd, yn ogystal â’r prosiectau a gyflawnir drwy gydol y
flwyddyn. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys trefnu, mynychu a
chymryd cofnodion yng nghyfarfodydd misol y Cyngor; cynnal
cofnodion a pholisïau; rheoli cyfrifoldebau gweinyddol ac
ariannol; cyflwyno archwiliadau; a sicrhau bod y Cyngor yn
cynnal ei fusnes yn gyfreithlon ac yn effeithiol.
Mae’r swydd yn bennaf yn weithredol o’ch catref, gyda
chyfartaledd o 12–16 awr y mis, gydag oriau ychwanegol yn
cael eu cytuno yn ôl yr angen. Bydd tâl yn unol â Graddfeydd
Cyflog NJC/SLCC, o Bwynt 7 (£13.69) i Bwynt 14 (£15.06) yn
dibynnu ar brofiad.
Bydd y sawl sy’n llwyddiannus yn gallu rheoli pwysau gwaith
a’i amserlen ei hun. Yn ystod oriau gwaith, byddant yn
cefnogi’r Cynghorwyr a’r aelodau o’r gymuned yn ôl yr angen.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn unigolyn trefnus, gyda sgiliau
llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu cryfion, ac yn ddidwyll, yn
wrthrychol ac yn annibynnol ei farn.
Mae Cyngor Cymuned Cyffylliog yn gyngor gwledig bach sy’n
gwasanaethu cymuned glos. Nid oes unrhyw staff ychwanegol
yn cael eu cyflogi.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:
Kellymcgregor@cyffylliogcommunitycouncil.co.uk
I wneud cais, anfonwch eich CV at y Cadeirydd.
Dyddiad cau: Bydd y swydd yn aros ar agor nes ei llenwi.